O'r gorau, tra bod y rhwyd yn eitha tawel, beth am hyn? Yn aml iawn dwi'n clywed pobl yn dweud "Nefi Bliw" fel ffordd i golli ager (yn enwedig rhyw eneth fechan y gweles i yn Eisteddfod yr Urdd ychydig o ddyddiau yn o+l...). Cwestiwn syml iawn:- beth yn y byd ydy tarddiad y dywediad hyn? A wnaeth rhywun enwog ei ddweud rhywbryd, neu ydy hi'n tarddu o ryw raglen teledu fy mod i heb weld, ynteu beth? Dwi'n sicr y bydd rhywun yn gwybod. Steve Morris. ["Nefi Bliw" (pronounced as in "navy blue") is a commonly used mild Welsh expletive, on a par with "flipping heck" or whatever else you see fit. What I want to know is, why? Where does the use of the expression coem from?]