Rwyf wedi bod yn gwrando ar ganeuon werin i blant yn ddiweddar (mae gan "Plethyn" gaset hyfryd sy'n cyflwyno rhai o'r caneuon yn y llyfr "Caneuon Gwerin i Blant" a olygwyd gan Phillys Kinney a Meredydd Evans). Un peth a dynnodd fy sylw oedd bod mwy nag un o'r caneuon yn defnyddio'r geiriau "Jim Cro". Chwiliais yng Ngeiriadur y Prifysgol ("Y Geriadur Cawr", chwedl John Ward!), a chael bod dwy ystyr i "Jim Cro" yn Gymraeg: 1) het ffelt feddal, a 2) teclyn a ddefnyddir i blygu barrau metel. Wel, y diffiniad cyntaf sy'n ffitio yn "Gwenno Penygelli": "...Mae gen i het Jim Cro yn barod i fy siwrnai..." Ond dwi ddim yn deall yn hollol beth mae'n olygu mewn ca+n arall, "Dacw Mam yn Dwad": Dacw mam yn dwad, Ar ben y Gamfa Wen, Rhywbeth yn ei ffedog, A phiser ar ei phen; Y fuwch yn y beudy Yn brefu am y llo, A'r llo'r ochor arall Yn chware Jim Cro. [cytgan]: Jim Cro Crystyn, Wan tw+ ffo+r; A'r mochyn bach yn eistedd Mor ddel ar y sto+l. Nawr 'te, o'r diwedd, y cwestiynau: 1) Oes neb yn deall y ga+n hon? 2) Beth ydy "chware Jim Cro"? A beth mae "Jim Cro Crystyn" yn 'olygu? 3) Ydy rhywun yn gwybod am ganeuon eraill sy'n defnyddio'r geiriau "Jim Cro"? Ac os felly, ym mha gysylltiad? Yn gobeithio cael perlau gwybodaeth oddi wrth danysgrifwyr eraill... Marta Weingartner weingart@ucs.indiana.edu [Questions about the use of the term "Jim Cro" in Welsh folk songs.]