[ about the change of Secretary of State for Wales, and some token protests during the second reading on the Welsh Language bill ] ( O.N. Newydd glywed rw+an am Ysgrifennydd/Unben newydd Cymru. ) Haws, mae'n amlwg cael Cymro'n bennaeth yn Nova Scotia nag yng ( Ngwalia. Pwy ar y ddaear yw'r dyn yma, a beth yw ei gysylltiad a+ ) Chymru - ei hen nain wedi bod ar drip ysgol sul i'r Rhyl yn 1837? John Redwood, fawr o gysylltiad a Chymru o gwbl, am wn i. (Fawr o ddim eto, am wn i.) Hyd y gellir gweld ar hyn o bryd, cafodd ei osod yn yr unig swydd `wag' yn y Cabinet er mwyn rhoi cydbwysedd rhwng de a chwith y blaid Doriaidd yn y Llywodraeth. Pwy fasai well gennych chi gael? Wyn Roberts, neu Rod Richards? Aelod o Dy'r Arglwyddi? A'n gwaredo, does yna fawr o ddewis o Doriaid Cymraeg na Chymreig i'w gael. Hoffwn i wybod ydy John Redwood yn gwybod ble mae Cymru. ( Clywais hefyd fod Dafydd Wigley wedi ei alw i drefn am feiddio a+ ) siarad Cymraeg yn y senedd wrth drafod y Mesur Iaith. A oes gan ( unrhyw un ohonoch ychwaneg o fanylion? Ceisiodd agor ei gyfraniad i ddadl ail ddarlleniad y mesur yn Gymraeg gyda rhywbeth fel mai gwarth yw hi na chai fel Cymro ddefnyddio ei iaith ei hun i drafod mesur yn yr unig senedd sydd a'r hawl i ddeddfu yng Nghymru, hyd yn oed pan bo'r iaith ei hun yn destyn deddfwriath... ac fe ddiffoddwyd ei feicroffon a'i alw i drefn. Yna fe ail-adroddodd yn Saesneg, gan wneud sylw ei bod hi'n dderbynniol yn ol rheolau'r Ty i ddefnyddio Ffrangeg Normanaidd yn y Senedd, ond na chai o ddefnyddio iaith brodorol siaredir gan miliwn o bobl. Cafwyd nifer o siaradwyr yn cwyno nad yw'r mesur yn ddigonol, ond na fyddent yn pleidleisio yn erbyn ail ddarlleniad. Defnyddiodd Rhodri Morgan (Llafur) ei gyfraniad i gwyno nad oedd fawr o bwrpas cyflwyno Mesur Iaith heb swyddi i gadw siaradwyr yr iaith yn fyw. Un peth na sylwais i arno cyn ddoe oedd mai'r Arglwydd Dafydd El oedd i fod yn gadeirydd ar y Bwrdd Iaith. Ydy hyn yn hen newydd gan bawb arall? g