[A new magazine for people in Wales interested in Irish; a book for parents wishing to speak Welsh to their children] Annwyl bawb, Derbyniais daflen yn ddiweddar yn so+n am gylchgrawn newydd o'r enw 'An Briathar Saor' a gyhoeddir ar gyfer pobl yng Nghymru a chanddynt ddiddordeb yn yr Wyddeleg. Yn yr Wyddeleg y mae'r daflen hysbysrwydd, ond dwn i ddim ai dyna fydd unig iaith y cylchgrawn. Addewir erthyglau, straeon byrion, cartwnau a cherddi. Daw allan ddwywaith y flwyddyn a chost tanysgrifiad blwyddyn yw #2 (#2.50 tu allan i Brydain). Gellir ei archebu oddi wrth Patrick Egan, 7 Minny St., Caerdydd CF4 4ER, Cymru. Os yw rhywun eisiau siarad tipyn o Gymraeg efo eu plant, ceir llyfr o'r enw 'DAN 12 MIS: An essential manual for parents wishing to bring up their very young children through the medium of Welsh'. [RSLR/ISBN 1 874049 04 1] Mae yma ambell ga+n, ge+m a hwiangerdd, yn ogystal a+'r ymadroddion mwyaf hanfodol megis: Wel, dyma beth ydi clwt llawn! Gad i mi lanhau dy ben-o+l di! O dacia/drapo'r hen wynt'na! Pwy sy'n gwlychu dad? [Yn yr adran ar 'Amser Bath', wrth gwrs] Cofion, Dewi. [Evansc92@irlearn.ucd.ie]