[Information about some things worth seeing (and some probably to avoid) in the area of Castell-Nedd (Neath), where this year's National Eisteddfod - Wales's premier cultural festival - takes place on July 30- August 6] Annwyl bawb, Rydw i'n llawn edmygedd o'r rhai hynny ohonoch chi sy'n ddigon trefnus i fedru meddwl rw+an am beth y byddwch chi'n ei wneud yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Tra oeddwn i'n chwilio am rywbeth arall neithiwr, mi ddois i o hyd i wybodaeth am ardal y 'Steddfod a gefais ar stondin yn Llanelwedd y llynedd. Ymhlith yr 'uchafbwyntiau' disgrifir y canlynol: Tref a Marchnad Castell-Nedd. Dywedir am y farchnad, 'Mae'r farchnad dan do, a godwyd yn ystod oes Fictoria, yn gwerthu cynnyrch ffres a bwydydd Cymreig fel bara lawr, ffagots a phys'! Abaty Nedd Camlas Nedd Parciau Gwledig Cwm Nedd Parc Bywyd Gwyllt Pensgynor. Gwerth dyfynnu eto: 'Dewch i weld y llu o fathau o fwnci%od sy'n byw yn 16 erw'r parc hwn, a pheidiwch ag anghofio'r fflamingos lliwgar, simpansi%od, y pengwinod chwareus ac amser bwydo'r morloi.' Rhaeadr Aberdulais Amgueddfa Glofa Cefn Coed Rhaeadrau Yn olaf, (ac rwy'n methu a+ deall sut y bu i Geraint anwybyddu'r fath em): Tref Gunsmoke. 'Ewch ar eich ceffyl i Dref Gowboi Gunsmoke ym Mlaendulais, yng Nghwm Dulais. Bydd y dref gowboi fach hon, gyda'i chaer Apache, Salw+n a charchardy wrth fodd y plant. Cewch fynd mewn tre+n i ganol y dref lle mae popeth yn digwydd. Cofiwch wisgo'n addas er mwyn cymryd rhan yn y "Saethu" sy'n cael ei gynnal yn rheolaidd yn yr haf.' Dylid medru cael ychwaneg o wybodaeth oddi wrth Y Swyddog Twristiaeth, Cyngor Bwrdeistref Castell-Nedd, Y Ganolfan Ddinesig, Castell-Nedd, Gorllewin Morgannwg SA11 3QZ. [Ffo+n: (0639) 641121, Ffacs: (0639) 633785] neu Y Ganolfan Groeso, Pontneddfechan [Ffo+n: (0639) 721795] ac am yr Eisteddfod ei hun: Swyddfa'r Eisteddfod, Y Ganolfan Ddinesig, Castell-Nedd, Gorllewin Morgannwg SA11 3QZ. [Ffo+n: (0639) 639500] Llawn o haul fo Castell-nedd - Awst aeddfed Ac Eisteddfod lanwedd; Rieni, blant, rianedd, O'r wlad neu dref dewch i'r Wledd! (Ap Llysor) Cofion, Dewi. [Evansc92@irlearn.ucd.ie]