Fe ofynodd John Williams os y cafodd y gyfres radio 'SOS yn Galw Gari Tryfan' ei chyhoeddi. Do. Mi ddarllenais nhw pan roeddwn yn ifanc - dim ond rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Dwi'n cofio tua tair cyfrol ond does gen i fawr o go o'r teitlau na pwy oedd y cyhoeddwyr. Mi ffonia'i adra a cheisio darganfod ychydig mwy! Gari Tryfan oedd arwr fy nhad pan roedd o'n ifanc (swn feiolin....) gyda gwrando ar y sioe yn dod o flaen popeth arall ('doedd na ddim telifision amser hynny wyddost ti' ayb). Mi roedd na gyfres teledu (cyn S4C dwi'n meddwl) ar ddechrau'r wythdega ond eto mae'r cof yn wan - oes gan rhywun arall gof o'r gyfres. Ar bwnc arall mi ddwedais fisoedd yn ol y buaswn yn rhoi rhestr o siopa / labeli recordia poop Cymraeg - dwi dal heb wneud, mi fydd rhaid i mi drio yn galetach! Ond: I'r rhai sydd ym Mhrydain: mae Gorci;s Sycotic Mynci (!) ar daith gyda The Fall ar hyn o bryd - braint mawr gan fod The Fall yn un o'r grwpiau 'alternative' mwyaf. Dwi'n meddwl fod Siop Pendref unai ar werth neu wedi ei gwerthu. Wnai ddim mynd i mewn i'r peth on son fod Eurig Wyn perchennog y siop ac amryw o fusnesau eraill wedi colli yn y cwrt dros rhywbeth a gyhoeddwyd yn Lol (cylchgrawn a gyhoeddwyd ar gyfer yr Eisteddfod tebyg i'r Private Eye) Reit rhaid gweithio Hwyl Dewi dewi@ricx.ri.ac.uk Y Sefydliad Brenhinnol The Royal Inststitution Llundain 'Michael Faraday and all that.....'