Gofynnodd Johan Schimanski ychydig o gwestiynau am waith Islwyn Ffowc Elis; tra fy mod i mewn 'ge+r' gydag o (gorffenais i ddarllen 'Cysgod y Cryman' dim ond neithiwr - llyfr gwych, eithr braidd yn rhwystredig yn y diwedd), gwnaf i fy ngorau.. > > Help! Rwy'n sgrifennu traethawd am _Wythnos yng Nghymru Fydd_ ar hyn o bryd. > Rhaid i mi gael gymorth gyda rhai o frawddegau a geiriau od. > > 1. "Ac rwy'n credu, drwy ddefnyddio math arbennig ar hypnosis, a > chloi'r ymwybod..." (18) > > Be' ydy'r _ar_ 'ma? Mistec yw e? Na, dim camgymeriad - dyma'r idiom am ddweud 'a special type OF hypnosis' > > 2. "Ac yna ... fe'm teimlwn fy hun yn cael fy nhynnu fel fagnet, a pho > fwya'r ewyllysiwn i, mwya'n y byd oedd y tynnu arnaf." (221) > > Sut allech chi gyfieithu y rhan ola' (_a pho ..._) ? Be' ydy'r _'r_ > ar o+l _fwya_? > I gyfieithu yn llythrennol - "... and the more I willed, the more it pulled on me"; yn llawn, mi fasai'r frawddeg yn dweud "po fwyaf yr ewyllisiwn i", gyda'r "po fwyaf" yn idiom am "the more..." a'r gair "yr" yn, wel, ym, wn i ddim, ond fasai'r frawddeg ddim yn gwneud synnwyr hebddo. > 3. (eistedd mewn cell:) "Yr oedd y tynnu o'r anwel wedi clo fy > nghyneddfau ..." (221) > > _anwel_ ? > Hm, dim yn amlwg; mi faswn i'n dyfalu mai rhyw talfyriad am "anweledig" ydy o - mae hyn yn gyson gyda'r cyd-testun. > 4. "Ac aeth yn fagddu arnaf." > > _fagddu_ ? "Mor dywyll a+'r fagddu"=="as black as " - dim ond yn y dywediad hyn yr ydw i wedi dod ar draws y gair hwn, ond mae hynny'n ddigon i wneud yr ystyr yn amlwg. > > 5. "Ymlaen ar hyd yr heolydd, drwy seithliw'r goleuon ..." > > _seithliw_ > "Seithliw"<---"Saith lliw" --> enfys?? Ydy hynny'n ffitio mewn gyda'r cyd-testun? > Diolch am bob ateb! > > Johan Schimanski Gobeithio fod y rhain yn ddefnyddiol, Steve Morris.