> I am writing for suggestions as I look at purchasing a Welsh/English > dictionary. Currently, I am using a Collins version and am finding that > it just doesn't contain a thorough enough vocabulary for me to > successfully translate the message that appear on Welsh-L. I would > appreciate any thoughts on the matter! Thanks... Mae 'na tipyn o broblem ynglyn a+ geiriaduron Cymraeg - 'does dim geiriadur perffaith ar gael. Heb os, y geiriadur mwyaf cyflawn ar hyn o bryd yw 'Y Geiriadur Mawr' ond 'dyw hynny ddim yn dweud lot! 'Rwyf yn defnyddio nifer o eiriaduron wahanol - mae'r un 'Collins/Spurrell' a'r 'Geiriadur Bach' (fath o cryno-geiriadur-mawr) yn cyfleus iawn - maen nhw'n addas i gadw mewn poced, mewn car ac yn y swyddfa. Yn anffodus, nid yw'r mwyafrif o eiriaduron sydd ar y farchnad yn arbennig o addas i ddysgwyr pur - dydyn nhw ddim yn cynnwys ffurfiau afreol y berfau ayyb (a phwy all dyfalu bod 'aeth' yn cysylltiedig a+ 'mynd') , ond mae help law newydd ar gael. Rwyf wedi gweld geiriadur eithaf newydd yn y siopau, sef 'Gair i Gall' - Gaeiriadur Sylfaenol i DDysgwyr, cyhoeddwyd gan Acen ( y grwp sy'n gwneud 'Now You're Talking' ar y teledu). 'Does dim copi 'da fi, felly rwyf yn methu rhoi yr ISBN. Pris oedd tua decpunt. Mae'n cynnwys geiriau wedi'i treiglo, ffurfiau afreol y berfau, ffurfiau lluosog od ayyb. Wrth gwrs, 'dyw e ddim yn cynnwys geirfa mor eang a+'r geiriaduron eraill, felly rhaid i ddysgwyr ei ddefnyddio fel cydymaith i un o eiriaduron mwy confensiynol. Piti garw nad oedd hyn ar gael pan ddechreuais ddysgu. Pryd bydd y Geiriadur Prifysgol i gyd ar gael? [Suggestions for dictionaries - Geiriadur Mawr is the most comprehensive, but still not great. Collins/Spurrell and Geiriadur Bach are OK - compact enough to carry around or leave in the car. A new one is now on the market aimed specifically at learners, and includes mutated words, irregular verb forms and odd plurals. It's called 'Gair i Gall' - a basic dictionary for learners and is published by Acen, the organisation who produce the the 'Now You're Talking' TV series for learners. Price approx 10 UKP. No ISBN available I'm afraid.] Nigel (ncallaghan@cix.compulink.co.uk) | Gwinllan a roddwyd i'n gofal yw (nigel@taliesin.demon.co.uk) | Cymru ein gwlad. Meddiannwn hi.