>Beth yw 'rhedell' i fod, beth bynnag? Does gen i run syniad. Sy'n dangos yn glir yr union beth roeddwn i'n so+n amdano. 'Rhedell' yw 'cursor' mae'n debyg, er rwy'n siwr nad oes bron neb yn defnyddio'r gair. Rydw i jyst yn cofio fe o rhyw rhestr termau cyfrifiadurol. Rwy'n cytuno gyda popeth mae Geraint wedi dweud, ond rwy'n dal i feddwl mae ychydig iawn o'r geiriau newydd fydd yn gafael. Fel mae Geraint yn dweud, y cyfryngau sy'n bwysig iawn yn y cysylltiad yma. Gyda llaw, mae llawer o bobl yn dweud 'television' ac nid teledu! ----------------------------------------------------------------------- Hywel Davies hyd@aber.ac.uk -----------------------------------------------------------------------