>Os am gromlech, ewch i bentre Ifan. g Wn i ddim os ydy o'n agor i'r cyhoedd ragor. Mae gen i hanner co ohono'n dod yn boblogaidd gyda'r 'new agers' (nid y teithwyr, ond y rhai o'r ddinas gyda'i crisialau a ballu) ac i'r tirfeddianwr gael llond bol o'i sterics. Unrhywyn o'r ardal i gefnogi/dryllio'r stori hon? Tra mod i ar y pwnc o 'new agers', mae na siop 'gelteg' fechan yma yn Rydychen. 'Celticworks' neu 'Celtic cavern'??? rwbath digon od beth bynnag. Mae nhw'n gwerthu gemwaith 'geltig' - ychydig o stwff Rhiannon, a canhwylli a pethach 'dirgel'. Fe ges i hwyl wrth ymweld a'r siop wsos dwytha, yng nghwni ffrind o adra. Fe chwerthom ni dros y 'book of Welsh wisdom' a'r 'Celtic Calendar' a oedd yn cynnwys arwydd y Zodiac ar bob mis, a pwyntiau diddorol fel "In bla-bla, a small village in Hampshire, they hold a pagan festival on the 14th". Y peth gorau oedd set o gerfluniau bychain o'r Iwerddon gyda sticer mawr arnynt- "Guaranteed Irish." -- Illtud Daniel Computing Officer, Jesus College, Oxford. idaniel@jesus.ox.ac.uk