'Rwyf innau'n cytuno bod y cyfrwng hwn yn un sy'n priodol i ddadlau am y frwydr. Ond tybiaf nid oes digon o ehangder gwleidyddol ym mysg tanysgrifwyr WELSH-L i sbardunno dadl ffyrnig. Mae'r ffaith eu bod a+ digon o ddiddordeb i danysgrifio yn dangos eu bod yn cyd-oddefol i rhyw raddau. Yn sicr, nid oes yma y sefyllfa dwy-begynnol a+ welir yng nhgyfryngau dadleuol y Gwyddelwyr, rhwng y cenedlaetholwyr a'r gwladgarwyr. Felly, ni fydd llawer o werth fflamio yn y cyswllt hwn, oherwydd nid oes llawer yma i'w diwygio. Os oes rhaid efengylu, manteisiwch ar y sefyllfaoedd lle byddwch yn debygol o addysgu cynulleidfa anwybodol. Huw. ("I agree that this is a pertient forum to discuss welsh 'hot' issues. But there is insufficient political diversity within the set of WELSH-L subscribers to generate fierce debate. The very fact of their interest in subscribing indicates they are somewhat sympathetic. There isn't the scope for a fierce debate similar to that found between nationalists and loyalists in Irish newsgroups/lists. There's not much mileage in flaming in this context, there are no suitable candidates for conversion. If you want to stand on a soapbox, ensure you are maximising your effect by enlightening an ignorant audience.")