Mae'r syniad o wersi Cymraeg i ddysgwyr yn dderbyniol iawn - bydd pobol eraill yn gallu deletio'r negeseuon yna. Ond mae un peth i gysidro - mae'r cwestiwn o hawlfraint yn codi os byddwch chi'n anfon deunydd o lyfrau cyhoeddiedig i'r rhestr. Gyda llaw, weles i newyddion y BBC y bore yma ac roedd rhywbeth am y ffilm Gymraeg "Hedd Wyn" yn cael ei henwebu am Oscar fel ffilm estron gorau'r blwyddyn. Rwy wedi darllen am y ffilm yna yng nghylchgronau Cymraeg (Golwg, Barn) ond heb gyfle i'w gweld hyd yn hyn. Gobeithio nawr bydd BBC2 neu rywun yn ei dangos ar y bocs cyn bo hir. Rwy wedi bod yn gwylio "Pobol y Cwm" ar BBC2 dros y wythnosau - mae'r rhaglen yn cael ei dangos gyda is-deitlau, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i ddysgwyr. Man nhw'n bwriadu rhedeg y rhaglen am brofiad o dri mis - os bydd yn ddigon poblogaidd mae'n bosib y bydd hi'n parhau yn y dyfodol. Yn ol Golwg mae cynulleidfa o ryw 600,000 i'r rhaglen - go dda! If Welsh lessons are put on the list, be careful of copyright laws if using material from published books!