Bydd llyfr newydd (yn Saesneg) yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth gan Wasg Prifysgol Cymru, yn ol y cylchgrawn _Golwg_, sy'n dadansoddi Cyfrifiad 1991 o safbwynt yr iaith. Teitl y llyfr yw _A Geography of the Welsh Language 1961-1991_ gan Harold Carter a John Aitchison. Yn ol cyfrifiad 1991 mae cyfanswm o 508,098 o siaradwyr Cymraeg (yng Nghymru yn unig, hynny yw - dyw siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Glawdd Offa ddim yn cael eu cyfrif!). Mae'r ffigwr hyn yn 18.6 y cant o'r boblogaeth dros 3 oed yng Nghymru. Dyma rai o'r ffigurau: Gwynedd 61% (canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg) Dyfed 43.7% Yng Ngwent, De Morgannwg a Morgannwg Ganol mae llai na 10% o siaradwyr ym mhob un. Mae awduron y llyfr yn dweud hefyd bod yr "opera sebon" _Pobol y Cwm_ wedi cymryd lle'r capeli Cymraeg fel ffordd o ddod a'r Cymry Cymraeg at eu gilydd fel cymuned. Mae'r honiad hynny, wrth gwrs, yn un ddadleuol iawn i grefyddwyr o bob math - ond mae'n edrych yn gywir i fi. Mae'r hen arwydd oedd ym mhob capel Cymraeg - "Croeso cynnes i bawb" - wedi mynd i ebargofiant 'slawer dydd. Wel dyna fflam sy'n siwr o godi dadl o ryw fath! Michael Morgan Llundain