Fel Gogleddwr dwi byth yn sicr pryd i ddefnyddio ti/chi Roeddwn yn galw fy rhieni'n chi Roedd mam yn galw ei mham (fy nain) yn ti! Mae mhlant yn fy ngalw fi'n ti Os galwaf yr ysgrifenyddes yma'n ti ac mae hi'n fy ateb fel chi, dwi'n teimlo bod hyn yn adlewyrchu mwy na gwahaniaeth oedran, sef gwahaniaeth statws. A dwi'm yn licio hynny o gwbl. Hefyd, credaf bod yn haws gan Gymry Caernarfon, dweder, i ddefnyddio ti'n naturiol, na, dweder, Gymry'r Wyddgrug (neu hyd yn oed Bangor), sy'n llawer mwy tebyg o ddefnyddio chi. [Some observations on the ti/chi debate. Parent/child usage. Reflects on relative status of people. Ti more common in certain localities] Hwyl, Dafydd Roberts Prifysgol Bangor