Blwyddyn Newydd Dda. Yn o+l yr unig eiriadur sydd gennyf yma, daw 'y' o flaen cytsain; 'yr' o flaen llafariad a 'h'; a ''r' ar o+l llafariad. Fellu, dim cymorth yma. Mae'r broblem yma wedi fy mhoeni am beth amser. Wedi bod i ffwrdd am flynyddoedd, synnais i weld arwyddion traffig yn dweud pethau fel 'Mynedfa Waith'. Yn gywir neu ddim, mae'n dal i swnio'n rhyfedd i mi. O ran 'Yr adran gyfrifiadur', yn Saesneg mae 'the computer department'yn ddigon clir, ond beth am 'the Department of Mines' neu 'the Ministry of Pensions'? 'Fasa 'the Mine Department' neu 'the Pension Ministry' yn newid yr ystur. Fellu, i mi, mae'r 'adran gyfrifiadur' yn cyfieithu fel 'the department of the computer' ac, am hynnu mae yr 'adran gyfrifiaduron' yn fwy cywir, i fi, beth bynnag. A oes adran gydag un cyfrifiadur? Ddim erbyn hyn, debyg. Y wylo mawr neu yr wylo mawr? John Williams o Saudi Arabia.