Cwestiwn i unrhywun sy'n dod o'r Gogledd-orllewin - dwi eisiau gwybod ynglyn a'r sefyllfaoedd y gellir defnyddio y rhagenw _chdi_ ynddynt. Er enghraifft, gellir dweud 'efo chdi' am 'with you' ond nid 'amdanat chdi' am 'for you' (beth am 'amdana chdi'?). Fel arfer dyw _chdi_ ddim yn bosib ar ol unrhywbeth sy'n gorffen gyda -t. Fy nghwestiwn yw: ellwch chi ddweud pethau fel 'Mi weli chdi'n fuan' neu 'Mi nei chdi weld', sef _chdi_ ar ol berf ail berson sy ddim yn gorffen gyda -t? Diolch yn fawr. David. [Question about when you can and can't use _chdi_ 'you (sing.)' in the dialects of NW Wales.]