>Perhaps Geraint Jones or someone else will be able to tell us how far North >Welsh women have retained, or revived, the practice of retaining their >maiden names in marriage. It's clear from gravestones in Lleyn and >Merioneth, at least, that this was standard usage until late in the >nineteenth century. Dydw i ddim yn siwr os mai myfi ynteu'r Geraint Jones arall (g) yr ydych yn ei feddwl - y Geraint Jones arall mae'n debyg. Beth bynnag, ym Mo+n, lle'r ydw i wedi bod yn hel achau, parhaodd gwragedd i ddefnyddio eu cyfenwau gwreiddiol tan tua 1840 - 'roedd i bob pwrpas wedi marw allan erbyn y cyfrifiad cyntaf - os nad oedd y rhai oedd yn casglu'r gwybodaeth i'r cyfrifiad yn rhoi cyfenwau'r gwyr i'r gwragedd eu hunain. 'Rwyf wedi dod ar draws ambell i esiampl cyn hwyred a 1880 dwi'n meddwl. Dydw i ddim yn ymwybodol fod llawer o wragedd yn cadw eu henwau gwreiddiol wedi priodi dyddiau yma - dwi'n gwybod am un neu ddwy sydd wedi cadw eu enwau gwreiddiol fel enwau canol. Ar fater arall... Pan ddaeth y sustem o enwi plant ar ol eu tadau i ben (tua 1840 - 1850 ym Mon), achoswyd cryn benbleth dwi'n siwr. Er engraifft, 'roedd un o fy nghyn-dadau, Howell Thomas, yn fab i Thomas Parry yn 1841 - mae'n hynny'n weddol syml - 'roedd wedi cael ei gyfenw oddi wrth ei dad. Cyfenwau _plant_ Howell Thomas oedd Thomas - nid Howell. Erbyn 1851, 'roedd y teulu wedi newid eu henwau - 'roedd Thomas Parry a'r un enw, ond Howell Parry oedd enw ei fab bellach - a Parrys oedd ei blant yntau hefyd! Mae yna ddipyn o blant yn cael eu henwi gyda'r he+n system, weithiau yn cynnwys y cyfenw (e.e. Ieuan ap Eifion Roberts). Mae'n ymddangos i mi fo+d y defnydd o'r hen ffordd o enwi yn cynyddu. Gyda llaw, o Landegfan, Mo+n y mae Aled Jones yn do+d - nid o Fangor. Mi o'n i'n yr ysgol uwchradd efo fo yn y Borth (Porthaethwy) (dyna ni gle+m to ffe+m ynde?). Geraint H. Jones ghj@mssl.ucl.ac.uk