> = "ydw") and "nadw"? Are they informal, or also written? Rhaid i fi ymddiheuro am y posting gwreiddiol yn iwsio'r termau "'whara", "otw" etc. Roeddwn i'n treial dod a+ thipyn o ysgafnder i'r dadl - ac yn disgwyl i bobl eraill, gyda gwybodaeth gramadeg y Gymraeg, ateb y cwestiynau gwreiddiol yn well na finnau. Roedd y ffurfiau yn y posting yn dod o gymoedd y de-ddwyrain - lle mae'r "d" yn tueddu troi yn "t", y terfyniad "-au" yn "-a" (fel yn y gogledd) ac yn y blaen. Prin iawn yw siaradwyr y tafodiaith hyn nawr; yn ysgolion y cymoedd mae'r plant yn dysgu "Cymraeg byw" (h.y. y rhain sy'n dysgu Cymraeg o gwbl). Yn bersonol, mae fy ngehfndir ieithyddol fi yn eitha cymysg - teulu mam o'r gogledd a theulu dad o'r gorllewin. Ond ges i fy nghodi a fy addysg mewn ardal o Gymru sy yn Saesneg iawn - sy'n effeithio safon fy Nghymraeg. Apologies to those who took my posting using "'whara" and "otw" too seriously I had expected a flood of answers to the original question from those with greater linguistic ability than myself. Cofion cynnes, Michael Morgan.