Heddiw maen nhw'n dathlu chwarter ganmlwyddiant arwisgiad Siarl yn Nhywysog Cymru, yng Nghaernarfon. Neu beidio'i ddathlu, efallai. Does fawr o ddiddordeb gan yr rhan fwya o bobl y dre, maen nhw'n dweud. Bron yr holl Gyngor lleol wedi gwrthod mynd i'r seremoni. Dim ond yn un stryd sydd wedi ei addurno (neu arwisgo??); o'r leiaf, mae'r banerau bach (y bynting 'te) yn goch, gwyn a gwyrdd y tro ma, yn well na coch gwyn a glas... [Today they celebrate the 25th anniversary of the Investiture of Pr. Charles as Prince of Wales in Caernarfon. Not much enthusiasm apparently, but at least the bunting are red white and green this time instead of red white and blue...] Harri O.Y. Dw i'n credu mai yn ystod yr Arwisgiad digwyddodd yr unig marwolaethau dros genedlaetholdeb Cymraeg milwriaethus, sef milwr a pherson (personau?) oedd yn mynd i osod y ddyfais ffrwydro. Oes manylion fanwl gan rywun? Dyfais pwy oedd hi? Oedden nhw am ladd rywun neu am greu niwed materol? Gyda llaw, Gymry annwyl, be di'r gair iawn am "victim, casualty"? Dim ond "ysglyfaeth" (prey?) a "aberth" (sacrifice?) y ga i yn y geiriadur sydd gen i yma, a mae'r dau yn teimlo'n anaddas.