Mae llythr yn 'Y Cymro' yr wythnos hon sy'n cwyno am y ffordd y mae bobl yn sillafu y dyddiau hyn. Nid yw'r awdur yn so+n am safon eu sillafu mewn print, ond y ffordd y maent dweud enwau y llythrennau. Mae rhai bobl yn dal i ddweud 'Ah' 'Bi' 'Ec' 'Ed' 'Edd' a.y.y.b. ond mae llawer yn dweud 'Ah' 'By' 'Cy' 'Dy' - ac wrth gwrs, mae rhai yn dweud 'Ay' 'Bee' 'See' - hyd yn oed ar BBC Radio Cymru maent yn so+n am 'streic gan gweithwyr y BeeBeeSee', nid 'BiBiEc' neu 'ByByCy'. Cwyn awdur y llythr yw bod 'Ah' 'By' 'Cy' yn fabiaidd. Mae cwestiwn gennyf i'r Cymry Cymraeg ar Welsh-L: sut dysgasoch dweud enwau llythrennau yr 'abiec' pan oeddech yn ifanc? Rwyf wedi clywed rhai fersiwn, ond ni allaf yn eu cofio yn llawn. [A writer in 'Y Cymro' has been complaining about the way people say the names of the letters of the alphabet these days. I'm asking how the Cymry Cymraeg in our midst learnt to say the alphabet] Nigel (ncallaghan@cix.compulink.co.uk) | Gwinllan a roddwyd i'n gofal yw (nigel@taliesin.demon.co.uk) | Cymru ein gwlad. Meddiannwn hi.