( I just spoke with a real ) i.e. native welsh speaker, and she said that the welsh for "please" ( is "pli~s", and that people who say "Os gwelwch yn dda" are speak- ) ing what she termed "book welsh". These may be native speakers, ( but it still sounds stilted in colloquial contexts. Perhaps I was ) right to say that what I meant by "pure" welsh is what is *formal* ( welsh, and leave it at that. Everyone will understand "pli~s",but ) some might feel that it is too informal, so perhaps here is an ex- ( ample of different registers in speech, and you would use "pli~s" ) with friends,family, etc.,but not with your teacher,lecturer, etc. I disagree with a great deal of what has been said in the last week's traffic, but let me just pick unfairly on this one as an example. When I went to University almost twenty years ago I met for the first time a Welsh speaker from the other end of the country, whose sentences were peppered with uses of the English words "so" and "quite" with their English meanings. ("Roedden nhw'n hwyr so ddaru ni fynd hebddyn nhw." "Doedd o ddim quite yn ddigon da." That sort of thing.) She works for the BBC now so I know she still does it. [Camp i wrandawyr Radio Cymru: am bwy dw i'n son?] At the time I thought she was a bit peculiar, but I find that it is quite common in her part of Wales and her society. She uses "please", or "pli+s" if you prefer, and they do on Pobl y Cwm too, but where I come from it would sound childish. I cannot imagine saying "pli+s" myself -- when someone offers me another cup of coffee the reply is invariably "'s'gwel'di'n dda" (well, when it isn't "[fydda i] byth yn gwrthod [cynnig o goffi]"). That is not formal, and it isn't "book Welsh" for me. I am not saying that your sample of one speaker was wrong: of course not, just that you oughtn't make categorical generalisations like that. Indeed I may well be the peculiar one: I do after all have a noble background, descended from a long line of blacksmiths. [No more English in this message.] Gan bod yna brinder o Gymraeg wedi bod yn ddiweddar hefyd, mi rydw i am draethu tipyn (D.S.: rhybudd llith) ar yr "ymdrech" yma. Wedi deallt, mae'n debyg mai cyfieithiad o ryw arwyddair hysbysebu Saesneg oedd o: ac mi rydw i am gynnig mai cyfieithiad sal ar y naw ydy o. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n gyfarwydd a'r gwreiddiol, nac yn gwybod arwyddair pwy ydy o, ond ystyr y gwreiddiol, mae'n debyg, fyddai rhywbeth fel "rydym ni'n gwneud mwy o ymdrech na neb arall (i'ch bodloni chi... i'ch gwasanaethu... beth bynnag)". Os felly, "ymdrechwn yn fwy" ddylai'r cyfieithiad fod. Camgymeriad yn fy marn i yw cyfieithu'r geiriau yn hytrach na throsi'r ystyr. Petawn i'n gweithio i gwmni Strata Matrix (fe fyddwn yn ennill cyflog mwy o lawer ac) fe fyddwn i'n anfodlon gyda "ymdrechwn yn fwy" hefyd. Mae'r "mwy" yn gadael ei hun yn agored i rywun ofyn pam nad yr "ymdrechwn hyd yr eithaf" -- fyddai honni gwneud felly'n well o froliant na dim ond ymdrechu i wneud y mymryn lleiaf yn well na'n cytadleuwyr. Dichon bod yr un lliw i gael yn ystyr y Saesneg, ond nad ydy o ddim yn taro dyn yr un fath: cymharer y ffordd y gall rhywun frolio gwasanaeth "safonol" a disgwyl i ni ddeallt mai un "o safon uchel" sydd ar gael, ond na feiddiai neb hysbysebu "a standard service" yn Saesneg rhaf ofn i ni ddisgwyl na fyddai o ddim gwell na'r safon gyffredin, neu sydd waeth un dim gwell na'r safon isaf sydd ar gael (fel gyda maint blychau sebon golchi dillad). Un o ogonianau'r diwylliant Cymraeg dros y, beth, pymtheng mlynedd diwethaf (os un na fydd pawb ddim yn falch o'i dderbyn hwyrach) yw'r wledd o hysbysebu da fu yn Gymraeg yn sgil y camau cyntaf i Gymreigio byd busnes. Rydw i'n cofio'r pleser (ie, pleser) o weld un o hysbysebion Telecom Prydain ar ochr eu ceir: yr arwyddair "yn gynt na'r gwynt". Fawr o beth, cofiwch chi, ond yn ddiamau o Gymreig: heb fod yn gyfieithiad amlwg, ac hyd yn oed yn cynganeddu, ddiawl (er bod yna ormod odlau). Yn sicr ddigon does gen i fawr o dda i'w ddweud am gwmni BT, ond o leiaf mi wnaethon nhw ymdrech deg i hysbysebu yn Gymraeg. Cymharwch BT gyda'r Swyddfa Bost (neu gyda Swyddfa'r Post os y mynner). Cyn iddyn nhw ildio i ymosodiad Cymdeithas yr Iaith, sefydliad uniaith Saesneg oedd y Swyddfa Bost. Un Swyddfa Bost sydd ym Mhrydain, y gyfundrefn sy'n dosbarthu llythyrau. Ar y llaw arall mi roedd llawer o'r llythyrdai, y siopau felly, y swyddfeydd lleol, yn arfer y Gymraeg. Roedd y gair "llythyrdy" yn gyffredin ar lafar, ac i'w weld ar fyrddau hysbysebu lleol ac ar ddrysau'r swyddfeydd lleol. Pan dderbyniodd y Llywodraeth yr egwyddor (os nad yr arfer) o ddefnyddio'r Gymraeg, yn dilyn deddf 1967, dechreuodd y Swyddfa Bost ei alw ei hun yn "Swyddfa'r Post". Erbyn hyn mae "Swyddfa'r Post" ar arwyddion coch-ac-aur tebyg iawn i'r rhai "Post Office" Saesneg, a dyma'r enw ar y swyddfa leol a'r sefydliad fel eu gilydd. Erbyn hyn mae'r gair llythyrdy wedi marw hyd y gwn i -- "mynd i'r Post" mae pawb y gwn i amdanyn nhw. Fe welwch chi ambell i hysbyseb dda weithiau: a rhai gwreiddiol ydy'r gorau fel arfer. Mae Cymorth Cristionogol, Merched y Wawr, yr Eisteddfod Genedlaethol, un o'r banciau (ond dim ond un hyd y gwela i) i gyd yn hysbysebu yn Gymraeg, yn hytrach na chyfieithu hysbysebion Saesneg. Fe welwch chi bennawdau papurau newyddion weithiau sy'n cynganeddu -- yn y Cymro o bryd i'w gilydd yn ogystal ag yn Barddas, ond gawetha'r modd ddim yn Golwg. (Ond seren aur i bwy bynnag ddyfeisiodd y pennawd "Dinas Potter" yn yr Atolwg pythefnos yn ol er nad oedd yr amseru, wythnos cyn marw'r dramodydd, ddim yn berffaith. Coron i pwy bynnag fathodd "at-olwg" am atodiad Golwg hefyd.) Dyna yn fyr (os nad mor fyr ag y dyliai fod) felly pam nad oeddwn i wedi darllen "ymdrechwn yn galetach" fel yr hysbyseb y bwriadwyd o i fod. Nawr, am y dewis o "caled"... roeddwn i am geisio esbonio fy neallt i o'r gwahaniaeth rhwng "caled" a "dygn", er mwyn gofyn barn y Cymry Cymraeg eraill. Ydw i'n camgymeryd, tybed? Peth negyddol, peth drwg, rhywbeth i'r osgoi yw caledi. Pethau sy'n rhwystro, yn gwrthwynebu, yn gwrthsefyll -- pethau fel creigiau, a cledrau ac yn y blaen -- sy'n galed. Mi fuasai gweithio tir garw yn waith caled i arddwr. Ar y llaw arall, mae "dygn" yn cyfleu i mi ystyron da, pethau i'w clodfori -- pethau hydwyth, ystwyth, gewynnog, cyhyrog sy'n ddygn; hwyrach mai'r cyd-seinio gyda "gwydn" sy'n fy nghamarwain i? Dim ond trwy weithio'n ddygn gall y garddwr orchfygu'r tir garw. Ydw i'n iawn hyd yn hyn? Os felly, mi rydw i'n dal mai (cam-)gyfieithiad llythrennol o'r Saesneg yw'r arfer cyfoes o son am "weithio'n galed". (Rydw i'n hanner disgwyl i rywun ddweud bod "gweithio'n galed" yn hen hen briod-ddull Gymericiach na'r Gymraeg, i'w weld ym Mrut y Tywysogion a chanu Gwilym Llaw Chwith.) Gall y gwaith (yr hwn y mae'n rhaid ei gyflawni) fod yn galed, ond dylai'r gwaith (trwy yr hwn y'i cyflawnir) fod yn ddygn. Ac felly "ymdrech ddygn"? Wn i ddim erbyn hyn. Beth bynnag dydy o ddim yn -- beth oedd y gair -- "slangy", nac ydy? Nid ceisio gosod y gyfraith ydw i (a fynnwn i ddim, llai na Knut, sefyll yn erbyn yr arfer bob-dydd o siarad Saesneg gyda geiriau Cymraeg, chwaith): dim ond esbonio fy neallt i, er mwyn gofyn ydy neb yn cytuno neu anghytuno. g