> > >I read in Plaid Cymru's newletter that elections for 5 seats in the > >European Parliament were being held on June 9th. PC thought they had an > >excellent chance for at least two of them. Does anybody know the results > >of the election, and what it may mean to the Welsh language? > > > > Tom McClive > > tommcc@gibbs.oit.unc.edu > > Dyma ganlyniadau Gogledd Cymru: > > Joe Wilson Llafur/Labour 88,091 > > Dafydd Wigley Plaid Cymru 72,849 > > G Mon Hughes Ceidwadwyr/ > Conservatives 33,450 > > Ruth Parry Democratiaid Rhydd./ > Liberal Democrats 14,828 > > P Adams Y Blaid Werdd/ > Green Party 2,850 > > D E Hughes Cyfraith Naturiol/ > Natural Law 2,065 > > J M Cooksey Annibynol/ > Independent 1,623 > > Yn ol y son, yng Nghlwyd y collodd Plaid Cymru'r etholiad - 'roeddynt wedi cael > mwyafrif sylweddol yng Ngwynedd (wel, hynny o Wynedd oedd ar ol yn yr > etholaeth). 'Roedd rhannau o Drefaldwyn a Meirionnydd Nant Conwy wedi eu tynnu > o'r etholaeth y tro yma, gan ddirywio pleidlais Plaid Cymru. Ym Mon 'roedd tua > 50-60 y cant o'r boblogaeth wedi pleidleisio mewn rhai ardaloedd, sydd yn uwch > nag mewn llawer o leoedd eraill. > > Geraint H. Jones Mae'n rhaid dweud nad yw hi'n fawr o sioc o glywed mai yng Nglwyd y collodd PC yr etholiad nac ydi! I fod un onast roeddwn wedi siomi o'r ochr ora gyda faint o'r bleidlais y cafodd PC. Gan gofio fod pawb i'r dwyrain o Gonwy am fod yn 'blue rinse mob' neu yn Lafuwyr roeddwn i'n meddwl fod hi'n ganlydiad reit dda. Gan fod Mam a Dad yn bye ym Mae Colwyn erbyn hyn mi fedraf fod reit siwr mai Tori y buasai rhan fwyaf o bobol Colwyn yn pleidleiso! (Is-grach Sir Gaer wedi ymddeol i 'charming Welsh communities' yn nifer o'u mysg). Mi sylwais hefyd fod PC wedi gwneud yn reit dda yn y de (gyda eithriad i'r etholaeth ble roedd Glenys Kinnock yn sefyll!) - gan sylwi ar y nifer o Gymry Cymraeg yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n cytuno a Geraint - ni fedrwn ni ddibynnu ar aelodau Llafur i wneud dim dros Gymru (heb son am y Gymraeg!). Mae'r Blaid Lafur ers tro byd wedi gwneud hi'n glir nad oes ganddi fawr o ddiddordeb yn yr iaith - er rhaid cymharu hyn a'r Toriaid sydd gyda DIM diddordeb. mae na fwy o siawns o gydweithrediad hefo' SNP - ond eto nid ydynt a fawr o ddiddordeb eu hunain mewn hybu eu hiaith eu hunain. Dyna ni. diweth y parti polutical brodcast! [Party Political Broadcast on behalf of Plaid Cymru - soapbox rant remix] Dewi Y Sefydliad Brenhinnol Royal Institution of GB Llundain dewi@ricx.ri.ac.uk