( Mae haint y "greengrocer's apostrophe" wedi ymddangos mewn fersiwn ) arall, siwr o fod. DS - dim :) Wn i ddim, wir. Wela i ddim rheswm dros beidio sillafu "haf" gydag acen grom (er na fyddwn i ddim fy hun, cofiwch chi). Mae'n debyg gen i mai "a+" yw'r llafariad yn "haf", ond bod hi'n arfer i beidio sillafu gydag acen pan nad oes gair a'r union sillafiad ond gyda llafariad byr i gael. Felly sillafir "ta+l" gydag acen am fod "tal" hefyd yn bod, "mo+r" gydag acen grom o achos "mor", ond "ha+f" heb acen am nad oes gair "haf" gyda llafariad byr i gael. Mae'n debyg byddai rhaid i ni newid sillafiad "haf" petai rhyw air newydd "ha/f" yn dod i mewn i'r iaith yn y dyfodol. (Haf a disgled o de bi+ffor i chi fynd, 'achan.) Mae dewis sillafiad gair yn o+l pa eiriau eraill sy'n bod yn rhywbeth mor afresymol y byddai rhywun yn disgwyl bod gan y Saeson eu bys yn y brywes. g