[The Welsh National Anthem 'Hen Wlad fy Nhadau' and the story of its composition, as today is Dydd Gw+yl Dewi (St. David's Day)] Annwyl bawb, Gan ei bod yn Ddydd Gw+yl Dewi, ac amryw un wedi cyfeirio at ein hanthem genedlaethol yn ddiweddar, dyma feddwl y byddai'n syniad ei rhoi yma. Dyma hanes ei chyfansoddi fel y'i ceir yn 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru': "Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James (Ieuan ap Iago) a'r gerddoriaeth gan ei fab James James (Iago ab Ieuan). Dywedir i'r mab gyfansoddi'r do+n un bore Sul yn Ionawr 1856 wrth gerdded ger glannau afon Rhondda ym Mhontypridd, Morgannwg. Ysgrifennwyd y tri phennill gan ei dad ar y Sul hwnnw a thrannoeth. Canwyd y do+n yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn festri capel Tabor, Maesteg, Morgannwg, yn 1856; 1858 yw dyddiad fersiwn argraffedig cyntaf y geiriau. Daeth y ga+n yn boblogaidd yn eisteddfodau'r 1860au, yn bennaf oherwydd i John Owen (Owain Alaw) ei chynnwys yn nhrydedd gyfrol ei gasgliad, 'Gems of Welsh Melody' (1860- 64). Nid yw'n sicr pa bryd y mabwysiadwyd y ga+n fel anthem genedlaethol. Gwyddys, fodd bynnag, i'r do+n gael cryn amlygrwydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874 pan ganwyd hi gan Robert Rees (Eos Morlais), gyda cho+r yr Eisteddfod o dan arweiniad John Richards (Isalaw) yn ymuno yn y cytgan. O hynny ymlaen cafodd ei hystyried fel y ga+n a fynegai orau yr ymdeimlad o genedlaetholrwydd Cymreig. Erbyn hyn fe'i hystyrir yn anthem genedlaethol swyddogol Cymru ac fe'i cenir mewn amryw o ddigwyddiadau cyhoeddus, yn aml gyda'r brwdfrydedd sy'n cyfateb i deyrngarwch ei geiriau a swyn trawiadol ei tho+n. Ceir fersiwn Llydaweg ar y do+n ac fe'i cyhoeddwyd gan William Jenkins Jones yn 'Telen ar C'hristen' (1895). Lluniwyd y fersiwn a fabwysiadwyd yn anthem genedlaethol Llydaw yn 1902, 'Bro Goz ma Zadou' gan Franc,ois Jaffrenou (Taldir; 1879-1956), yn 1897." Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi, Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri; Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad, Dros ryddid collasant eu gwaed. Cytgan: Gwlad! Gwlad! pleidiol wyf i'm gwlad, Tra mo+r yn fur I'r bur hoff bau, O bydded i'r heniaith barhau Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd, Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd; Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd i mi. Cytgan Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed, Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed; Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad, Na thelyn berseiniol fy ngwlad. Cytgan Cofion gwladgarol, Dewi. [Evansc92@irlearn.ucd.ie]