> > (ac yr un plentyn am yr un ci) > > Clywodd gyfarthiad byr cwta Lob, ac wedi agor y drws dyna lle'r oedd > > O ar y mat yn bwyta y sborion cinio Dan, bwyd yr oedd EF wedi methu > > ei fwyta oherwydd ei boen meddwl. > > (o "Dwy Gwningen Fechan") > Ond dwi'n gywrain o hyd am yr ail enghraifft. Mae Kate Roberts wedi defnyddio > 'o' ac 'ef' ar o~l yr un gair, 'oedd', yn yr un frawddeg. Y mae rhai ieithoedd > fan hyn yng Ngogledd America, Kutenai, er enghraifft, y mae iddynt gystrawen > wedi'i enw'n "proximate/obviative". Mae i'r Kutenais ddwy fath o ragenwau, y > rhai proximate a'r rhai obviative, ac maen nhw'n defnyddio y ddwy, ymhlith > pethau eraill, i "tell apart two people referred to in the third person, 'her' > and 'her'" (maddeuwch y Saesneg). Roeddwn i'n meddwl y gallai bod yr enghraifft > o Kate Roberts tipyn (yn dipyn?) fel y gystrawen o Kutenai, neu, efallai, bod > 'ef' tipyn mwy pwysleisiol na 'o' i Kate Roberts. Mentro byrbwyll. Sorry, David. Doeddwn i ddim yn sylwi beth oedd pwrpas yr ail res o engreifftiau y tro cyntaf, wel, dim yn sylwi ar yr O gyda'r ferf gyntaf. Y peth tebycaf y gallwn i ei awgrymu yw mai rhywbeth i'w wneud a+'r cyd-destun yw e. Mae DYNA yn awgrymu iaith fywiog ac arddull lafar. DYNA ydy'r fath o air y byddet ti'n defnyddio wrth adrodd y stori i rywun y dydd wedi iddo ddigwydd. Mae DYNA ac O yn mynd gyda'i gilydd felly, ond does dim sefyllfa debyg yn yr ail gymal. Unrhyw sylwadau gan bobl eraill? - David Willis.