Yn Saesneg llafar y mae tonyddiaeth (intonation) yn cael ei ddefnyddio er mwyn arwyddo'r gwahaniaeth rhwyn y dau fath o gymal perthnasol: My brother who lives in Birmingham //... (defining: I've another brother in York) My brother // who lives in Birmingham // ... (non-defining: by the way, that's where he lives) Rwy'n credu bod yr un gwahaniaeth tonyddiaethol yn cael ei ddefnyddio yn Gymraeg: Mae fy mrawd sy'n byw yn Aber // (mae gen i frawd arall yn Lloegr) Mae fy mrawd // sy'n byw yn Aber // (gyda llaw, mae'n byw yn Aber) Ydy hyn yn gywir, siaradwyr o Gymraeg fel mam-iaith? Gweler erthygl Martin Rees, 'Intonation and the discourse', yn 'Welsh Phonology, selected readings', wedi'i olygu gan Martin Ball a Glyn Jones, Caerdydd, Univ. of Wales Press, 1984, tud. 125-155. Mae ganddo enghraifftiau 'na beth arall dw i ddim yn gwbod eto (That's another thing I don't know yet. - defining rel.) 'na beth arall // dw i ddim gwbod eto (That's another thing. I don't know yet. - dwy frawddeg wahanol.) John W Prof. J.C. Wells Dept. of Phonetics & Linguistics University College London Gower Street, London WC1E 6BT Tel. +44 (0)71-380 7175 (direct line) Fax +44 (0)71-383 4108