Wayne - Na, nid cymysgfa o "ti" a "chi" ydy "chdi". Mae'n cael ei ddefnyddio yn ardal Bangor a rhannau eraill o Wynedd yn lle "ti" fel rhagenw anffurfiol yn unig. Dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio i berson nad ydych chi'n siwr os dylech chi'n defnyddio ai "ti" neu "chi" iddyn nhw! Datblygodd yn ystod y ganrif ddiweddaf mewn cyd-destun fel "(my)fi a thydi". O leiaf, tua diwedd y 19eg ganrif roedd pobl hy+n ym Mangor yn dweud "fi a thdi" tra oedd y bobl ieuainc yn dweud "fi a chdi". Mae hyn yn awgrymu bod dissimilation wedi cymryd lle o "thdi" i "chdi" achos bod y cytseiniaid "th" a "d" yn rhy agos at ei gilydd o safpwynt seinegol. Gweler Fynes-Clinton's "Welsh Vocabulary of the Bangor District" am fwy o fanylion. Dwi'n credu bod 'na esboniad tebyg yn Gramadeg Morris-Jones hefyd. - David.