Helo bawb! Mae gen i sto+r o bwyntiau i ddweud ar o+l darllen hen rhifynnau Cymraeg-L... Gofynnodd Hefin Jones "A oes yna Gymry?".. Oes wir! Ffisegwr yng Nghaerdydd! Dwi'n fyfyriwr is-raddedig ail flwyddyn, ond dwi'n sylwi mai hynach na hyn mae'r rhan fwyaf y cyfrannwyr. (Ond mae'n an anodd dweud beth yw oed pobl ar y rhwyd wrth gwrs). Oes yna is-raddedigion arall? Ydyn nhw'n rhy thic i ddallt y compiwtars 'ma neu be, neu dim ond scwlcan mae nhw? (Na, cwestiwn dadleuol i gael ymateb oedd hwnna, ac esgusodwch fy rhwydfoesau). Nage, dwi'n gwybod... mae'r myfyrwyr i gyd yn y tafarndai! There follows some Welsh translations of network terms what I have thought of. The first one is one of my favourite words - 'scwlcan'. It is a Swansea valley word for 'lurking' (or in fact anything that you may do secretively, like eating. My grandmother (even now) still says "Scwlcan i ti ife?" [ "You're sculking are you?", sorry, this is a bad translation ] if she comes into the kitchen while I am reaching into the cupboard for a chocolate biscuit....) Note: it is usually said to little kids ;-) No. Tall story. In fact 'scwlcan' has obviously come from the english 'skulking'. I think this is acceptable, because it is not used because people are ignorant of the 'proper' word. In fact, the Welsh word is 'llechu' but unfortunately it sounds rather like 'rhechu' (look it up). Scwlcan is pronounced just as it 'looks' .. to 'rhyme' with bull-can. Hey! Weird thing jus' happ'n'd! I just typed in 'my' as 'mae'. One's english and the second's Welsh but they both sound the same. (phonetically equivalent). Rhyfedd 'te? This is probably due to me thinking in Welsh and typing in English. (Not always the case, I've always had more creative thoughts when I'm "thinking in english", mainly because I've been exposed to _a lot_ more english in the media and such-like.) Enough! The list: lurking - scwlcan netiquette - rhwydfoesau login/logoff - cloi mewn/cloi ffwrdd (Mae'r ddau yma braidd yn wirion ond allai ddim meddwl am ddim byd gwell. Mae'r busnes 'cloi' yn debyg i ge+riau car, dyna lle ges i y syniad) virtual reality - realiti rhithwir cyberspace - rhithofod ('virtual space') e-mail - neges-e (gyda'r acen ar yr 'e', mae'n cael ei ddweud fel y gair 'negesu' (sydd ddim yn air go iawn dwi'n feddwl?)) Gellir dweud 'negesu' am 'e-mailing' neu 'neges e' am 'e mail'. Flin gen i, dwi ddim yn gwybod sut i ddangos y geiriau yn ffonetig.**gweler nodyn isod World Wide Web - Gwe Byd Eang neu 'ar y we' Mae'n bwysig iawn cyfieithu! Ond mae rhai geiriau lle nad yw'n werth y drafferth - pethau fel UseNet - DefRwyd??!! (Deud y gwir, mae hwnna'n eitha cw+l. Dwi yn (trio) sgrifennu llyfr ffug-wyddonol a fe alla i weld hwnna yn ffitio mewn yn ddel). Heniwe.... roedd rhyw foi yn so+n am saesneg yn dod yn rhyw fath o 'iaith swyddogol' y rhwyd. Ond nid dyna'r gwir. O fewn 10 mlynedd fe fydd systemau cyfieithu yn gallu cyfieithu yn uniongyrchol rhwng ieithoedd, gyda negeseuon ysgrifenedig neu llais, a fydd yr hen iaith saesneg yn disgyn no+l fel y gwnaeth Lladin. Nid delfrydiaeth yw hwn, ond Y Gwir. Rwy'n cytuno a Johan Schimanski hefyd ynglyn a defnyddio geiriau yn eich iaith eich hun. Os oes digon o bobl yn defnyddio'r geiriau newydd, fyddan nhw ddim yn swnio mor od. Wedi'r cyfan roedd y gair 'cyfrifiannell' yn swnio'n hurt ar y naw i fi pan ddechreuais i ysgol! Felly hefyd 'prosesydd geiriau' neu 'delwedd rhithwir'. Mae dysgu pynciau fel Ffiseg neu Mathemateg yn y Gymraeg (yn _Ysgol Tryfan_, Bangor... diolch _Gwen Aaron_) wedi cyfoethogi fy ngeirfa yn fawr. Felly roedd gwneud y Gwyddorau yn Gymraeg yr un mor ddefnyddiol (h.y. 'practical') a gwneud Cymraeg lefel-A. Dwi'n gresynu yn enbyd nad oes yna 'Goleg Cymraeg' gyda graddau coleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi'r cyfan y cam nesaf ar o+l ysgolion meithrin, ar o+l ysgolion cynradd ac ar o+l ysgolion uwchradd yw colegau! Clywais i rywbeth am gynllun i uno colegau ym Mangor (a ffurfio Coleg Gymraeg yn ei sgi%l... Ydi'r stori yma yn gywir? (ac ydi'r acen hyn (i%) yn iawn?) (Ac wrth gwrs, fe ddylai pob Cymro da wybod am _Eic Davies_ yn bathu termau rygbi yn Gymraeg, a sut mae nhw yn dod mor naturiol hyd yn oed i rywun fel Ieuan Davies) ** Neges ychwanegol : Dwi' ddim yn deall pam fod rhaid dweud "a bi ec" ayyb yn lle "a by cy". Dwi ddim yn cofio neb yn dysgu fi un ffordd neu'r llall, ond y ffordd 'babiaidd' dwi'n ddefnyddio sef "a by cy ch dy dd e f ff gy ng hy i l ll m n o py ph r rhy s ty th u w y" Annwyl academyddion (!) Ydio ots pa ffordd, ac ydi e'n haws i ddysgwyr ddeall ynganiad 'a bi ec'? I'm clust i (sydd wedi ei eni yng Nghaerdydd a'i godi ym Mangor - roeddwn i yn sownd i'r glust ar y pryd cofiwch ... ) mae e'n swnio yn fwy seisnigaidd i ddweud "a bi ec" (Yn eironig, efallai, dwi'n meddwl fod plant lloegr yn cael ei dysgu i ddweud "a by cy dy ff gy" a ddim "a bee cee dee eff".) Cyn i fi ddrysu chi'n lan, rhaid ffarwelio. Hwyl bawb... Dafydd Tomos +===========+==================+=====================================+ | /\\\\\\ | Y Sbei Slei | Neges-E \ | | //\\\\\\\ | | >spx3dwt@cardiff.ac.uk | | | _ _ | | (Dafydd Tomos) | E-Mail / | | | (. .) | +=======================+================================+ | | L | | Latin quotation of the day "non progredi est regredi" | | | \___, | | Pobl cloi ar y diawl oedd y Rhufeiniaid 'na! | | \_____/ | Those Romans sure had philosophy down to a fine art! | +============+=======================================================+ O.N. - Fe ymddangosir y llofnod yma unwaith ac unwaith yn unig. [ P.S. - This sig will appear once and once only. A non-bandwidth wasting mere three lines will appear next time. Aren't you glad I told you this? ]