( Ar bwnc arall, mae'r "National Lottery" newydd (Loteri Genedlaethol?) ) ar fin cychwyn ym Mhrydain, ... ( ond oes rhywun yn gwbod os bydd Cymru neu'r Gymraeg yn cael unrhyw lles? Mae gan y KKK "uned loteri", fel sydd gan Cyngor y Celfyddydau yn Lloegr yntau: roedden nhw'n hysbysebu yn ddiweddar am "swyddog loteri (gweithrediadau)" i reoli'r grantiau o arian y loteri a ddaw iddyn nhw. [Cyflog ar raddfa o L17k hyd L23k, ond roedd y dyddiad cau tros mis yn o+l.] Mater arall yw a fydd ai Cymru ai'r Gymraeg yn elwa dim o hynny. Does wybod beth ddaw o hysbysebion yn llawn geiriau fel "gwerthuso" a "monitro" a "gweithrediadau"; am wn i does gan "gwerthuso" fawr i wneud a+ gwerthoedd. ( did once receive a letter addressed simply to "Bangor" ) plus post-code, which arrived, presumably via Bangor-on-Dee in Northern ( Ireland, bearing the immortal annotation "TRY WALES". Feiddiwn i ddim ychwanegu dimau at fy ffyrling gynnau ond heb so+n am Fangor Swydd Down, mae hybarch Loegrwys bro Maelor yn cael trafferth ddigon cydrhwng Easy-Coid (chwedl hwythau, Bangor is y Coed rhyngom ninnau) a Bangor on Dee. Trethu amynedd Cymru? Ydyn debyg. g