> meddwl bod 'Un nos ola leuad' yn un o nofelau mawr y ganrif hon. > Trueni nad oes neb yn gwybod amdani allan o Gymru. (Ond wyddwn i ddim > chwaith sut i'w chyfieithu... fe glywais i unwaith fod merch ym > Mhrifysgol Toulouse (Ffrainc) yn cyfieithu llyfrau Gymreig (Gymraeg?) > i'r Ffrangeg. Oes rhywun yn ei nabod hi?). > > Stefan (Stefan.Schumacher@uibk.ac.at) Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg ac i'r Ffrangeg; dyma'r manylion: Prichard, Caradog, 1904-1980 Full moon / translated from the Welsh by Menna Gallie. - London : Hodder and Stoughton, 1973. Prichard, Caradog, 1904-1980 Une nuit de pleine lune / roman traduit du gallois par Jean-Yves Le Disez et Carys Lewis. - [s.l.] : Actes sud, 1990. Roedd drama Saesneg, gyda'r teitl _Full Moon_, yn teithio Cymru yn ddiweddar hefyd - gyda'r actores Betsan Llwyd yn chwarae rhan Y Fam (chwaraeodd yr un rhan yn y ffilm Gymraeg). Gwyliais i'r ffilm ar y teledu dros y Sul am y tro cyntaf; fe driais i gael tocyn i'w gweld pan oedd hi yng Ngwyl Ffilmiau Llundain 2-3 blynedd yn ol, ond roedd y tocynnau i gyd wedi gwerthu mas. Cofion cynnes Michael Morgan, Heythrop College, Prifysgol Llundain. [Above are details of two translations, English & French, of the Welsh novel _Un Nos Ola Leuad_]