> I am presently trying to learn Welsh, using Teach Yourself Welsh and the > Linguap hone course. Can anyone recommend a good cassette course for > conversational W > elsh? Especially for the Carmarthenshire area. > Thanks, > Melanie Harries [English summary at the end.....] Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gwrs i ddysgwyr sy'n canolbwyntio ar dafodiaith ac acen Sir Ga+r, ond gallech ceisio cysylltu a+ Islwyn Edwards, sy'n Trefnydd Cymraeg i Oedolion yn Nyfed. Rwyf yn gwybod bod cyrsiau brintiedig ar gael yn arbennig i dafodiaeth y Gogledd, efallai bydd rhywbeth tebyg ar gyfer Sir Ga+r. Cyfeiriad Islwyn yw: Islwyn Edwards Trefnydd, Cymraeg i Oedolion Theatr Felinfach Felinfach Dyfed Mae enghreifftiau tafodiaeth Sir Ga+r (a llawer o hen dafodieithoedd eraill, sydd bron wedi diflannu nawr) ar gael ar a ta+p sy'n mynd gyda 'Cymraeg, Cymra+g,Cymre+g...Cyflwyno'r Tafodiethoedd', gan Beth Thomas a Peter Wynn Thomas (Cyhoeddwyd gan Gwasg Taf, Caerdydd,ISBN 0 948469 14 5). Llyfr bendigedig yw hwn, sy'n cynnwys erthyglau diddorol iawn am y gwahaniaethau nodweddianol rhwng y tafodieithoedd. Mae ta+p ar gael hefyd, yn seiliedig ar y casgliad llafar yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Fagan. Mae copi ffonetig yn y llyfr o'r sgwrsiau sydd ar y ta+p. Llyfr arall o ddefnydd i ddysgwyr profiadol( a Chymry Cymraeg rwy'n siwr) a+ diddordeb mewn tafodieithoedd yw "Blas ar Iaith Cwmderi" gan Robyn Lewis (Gwasg Carreg Gwalch,Capel Garmon, Llanrwst, Gwynedd Ffo+n 01690-710261, ISBN 0-86381-264-3). Fath o eiriadur dwy-dafodiaithog ydy hwn. Ysgrifennwyd i roi dipyn o gymorth i wylwyr y sebon 'Pobol y Cwm' ar S4C, y mae'n rhoi cyfiethiad rhwng Cymraeg Deheuol a Chymraeg Gogleddol. er enghraifft: Deheuol Gogleddol ------- --------- Hastu brysio, rhuthro, styrio - hasta di, gw-boi! - styria, 'washi! - pidwch hastu pethe - peidiwch a+ rhuthro petha becso [Saes: vex] hidio, malio, poeni - sneb yn becso dam - does neb yn malio botwm corn - wy'n becso ymbytu ti - rydw i'n poeni yn dy gylch di Llyfr ardderchog! {English Summary follows....... I'm not aware of any cassette based courses specifically for Carmarthen dialect, but you might be able to get some information from Islwyn Edwards, who is the organiser of Welsh for Adults in Dyfed. Address above. Two good books on Welsh dialects (neither of them really suitable for beginners) are: "Cymraeg, Cymra+g, Cymre+g" by Beth Thomas and Peter Wynn Thomas. This comes with a cassette of samples of various old people talking in their native dialect. Transcripts of the talks are in the book. Also "Blas ar Iaith Cwmderi" which is a sort of two-way dialect dictionary between Gog and Hwntw. ] Nigel (ncallaghan@cix.compulink.co.uk) | Gwinllan a roddwyd i'n gofal yw (nigel@taliesin.demon.co.uk) | Cymru ein gwlad. Meddiannwn hi.