Heddiw (6 o fis Hydref) mae hi'n "National Poetry Day" um Mhrydain. Meddai Geraint (g): > Roedd rhywyn yn gofyn am reolau cynghanedd ychydig yn o+l: fel mae'n > digwydd roeddwn i'n trafod gyda Myrddin ap Dafydd ffyrdd newydd o > gyhoeddi llyfrau ac mae o wedi bod yn hael iawn ei ganiatad i mi > ddefnyddio'i lyfr Clywed Cynghanedd fel sail i gwrs cynghaneddu > ar y rhwydwaith (www). Rydyn ni'n bwriadu cychwyn trwy gael ffordd > o drosglwyddo'r disgiau gwreiddiol i ffurf fydd yn gwneud y gwaith yn > haws, ac rydw i'n disgwyl y bydd y cwrs yn ymddangos fesul tipyn fel > fydd amser yn caniatau, gan cychwyn rhywbryd yn ystod tymor yr hydref. Be' yn union 'di www (Worldwide Web?) Fydd yn bosibl cael y gwersi drwy WELSH-L? Harri ______ Ar f'aelwyd mae rhyfela - a daw'r sgrech Drwy'r sgri+n... fe'i ddifodda'; O'i ddifodd caf ddiffodd ha' Ar grindir gwae Rwanda. - Ymryson y Beirdd, Eisteddfod Nedd 1994 (methu cofio enw'r bardd)