Heb feiddio eu cynnig nhw fel dim mwy na'r hyn rydw i'n ddefnyddio, mae gen i ofn mod i o blaid 'e-bost' a 'neges' fy hun. Fel Mark ac eraill, rydw i'n gwahaniaethu rhwng electronig a thrydanol: mae ystyr peirianeg 'trwm' i'r gair 'trydanol'. Yn hyn o beth ni ellid cyfieithu'r chwarae ar eiriau yn 'over the wires the electric message came: he is no better, he is much the same'. Mae'n debyg gen i hefyd mai 'neges gyfrifiadur' (yn bendant gyda threigliad ansoddeiriol) fyddwn i'n ei ddweud, yn hytrach na 'neges electronig'. Hoffwn i awgrymu mai e-bost yw'r ffurf naturiol o dalfyrru 'post electronig', gan nad ydy 'e-' ddim yn sefyll yn hawdd fel gair ar ei ben ei hun, ac felly mae'n rhaid mai gair gyfansawdd yw 'e-bo+st' neu 'bost-e', ac felly 'e-bo+st' sy'n debyg o fod yn gywir (ansoddair cyn yr enw); ac mae o hefyd yn canu'n well, er gwaetha'r acen ar y sillaf olaf. Ond wedi dweud hynny, defnyddir y gair 'mail' yn aml yn Saesneg am y neges yn ogystal a'r gyfundrefn. Fy hun fyddwn i byth yn defnyddio 'post' i gyfeirio at un neges yn Gymraeg: cyfansoddi neges i'w danfon yr ydw i ar hyn o bryd, nid cyfansoddi post. (Pe byddwn i, hwyrach mai cyfansoddi postiad fyddwn i beth bynnag.) Fel y bydda i yn ei ddweud o bryd i'w gilydd, nid chwilio am drosiad o eiriau unigol ddylai rhywun, ond cyfieithu ystyr cyfan. Wedyn am y www ddiawledig ddi-w+ ddi-y+ yma, cefais y profiad rhyfedd o geisio esbonio beth yw'r www i Gymro o fardd y mae gen i barch mawr o'i ddefnydd o eiriau, a digwydd bod heb gyfrifiadur yn gyfleus i arddangos beth oeddwn i'n ceisio'i esbonio. (Dyma "allech chi esbonio grisiau tro heb chwifio'r dwylo?" y dwthwn hwn.) Daeth yn amlwg i mi mai gwe yn yr ystyr o "tangled web", yn hytrach na "woven fabric" sydd yma, beth bynnag oedd y bwriad gwreiddiol. Rydw i felly'n gyfforddus gyda "y We", mae "rhywle yn y We" yn llithro cystal ddim a "out on the Web somewhere"; a gyda "y We Rhyngwladol" os am fod yn barchus. Ie, ond at hwn roeddwn i'n dod. Fyddwn i byth yn meddwl 'cyfieithu' enw fel 'usenet', dim mwy na fyddwn i'n meddwl defnyddio gair arall yn lle enw fel Marmite neu Colgate, na 'chyfieithu' enw person. (Rhydd i rhywun newid eu henw, ond nid cyfieithu mae nhw.) Weithiau (fel yn achos Usenet, neu Marmite) mae ystyr ynghudd yn nharddiad y gair, ac fel allai rhywun ddefnyddio geiriau Cymraeg i esbonio'r ystyr, ond enw -- cyfeiriad heb gynnwys -- sydd yma erbyn hyn. Rydw i'n hoff iawn o'r syniad o "sglefrio'r rhwydwaith" (fel un sy'n "cropian y cyrion") sy'n debyg o fod yn groywach nag unrhyw gynnig arall am syrffio (syrffio, fe gofiwch, oedd gair Endaf Emlyn am syrffio'r ewyn, yn nheitl Syrffio Mewn Cariad, sy'n dangos fy oed). Mae bathu creadigol yn rhan o'r diwylliant Cymraeg; na, dydw i ddim am grybwyll Jac Codi Baw eto, ond mi roedd hi'n dda gweld rhywun mewn erthygl yn Golwg yn ddiweddar yn cyfeirio yn ddi-ffwdan at "road cones" fel "hetiau gwrach". (Er budd darllenwyr tramor dylwn esbonio mai pyst pigfain plastig coch a gwyn, siap het gwrach, ddefnyddir yn y gwledydd hyn yn lle pileri neu talpiau concrid i gau am dyllau yn y ffordd.) Felly dyma ofyn sut mae pobl eraill yn cyfeirio at yr afrealaeth, y byd arall "lle" mae cyfarfodydd electronig yn digwydd, "lle" nad oes dim ond "y Gair" yn bod, y byd "lle" mae'r We yn bodoli: yr hyn mae rhai pobl yn ei alw yn "cyberspace" yn Saesneg (nid mod i byth yn defnyddio geiriau fel "cyberspace" fy hun, cofiwch chi). Nid gofyn am air yr ydw i, wrth gwrs; hwyrach nad "lle" ydy o o gwbl yn Gymraeg. Cynigion? g