---------- Forwarded message ---------- Date: Thu, 13 Oct 1994 18:27:34 -0700 (PDT) From: Rheinallt Parri To: Roland Williams Subject: Re: hanner? Mae pawb dwi'n 'nabod yn deud "hanner dydd" a "hanner nos", a dwi hyd yn oed wedi clywed hwntws yn deud y geirau hyn. Tydi "canol" ddim yn amser pendant. fe allith "canol nos" fod yn 11, 12, 1 neu ddau o'r gloch - yn dibynnu ar pryd ydych yn mynd i'ch gwely, ond dim ond un "hanner nos" sydd yn bod. Rheinallt Parri On Wed, 12 Oct 1994, Roland Williams wrote: > Surely 'Canol' is the word? > > 'dwy i erioed wedi gweud hanner am unrhyw beth amserol ond hanner awr. > > canol dydd neu canol nos yw'r ffordd 'rwy i wedi defnyddio. > > Pob lwc > > Roland > > >