Myn diawl, yn lle dyfalu, darllenwch Jackson, Language and history in early Britain, tdau. 527-8: "This (prosthetic on-glide) cannot have existed in British Latin, or not sufficiently to have been perceived and adopted by speakers of British, because the Britt. @- (= schwa, maddeuwch i mi, does dim schwa yn ascii) is limited to Welsh only (h.y. does dim "yst-, ysb-, ysg- yng" Nghernyweg nac yn Llydaweg) and is found there equally in native and in Latin words." Hynny yw, datblygiad annibynnol y Gymraeg yw yst-, ysb- ysb- ac does dim dylanwad o'r Lladin. Gyda'r llaw, mae 'prosthesis' yn eitha mynych yn ieithoedd y byd, e.e. Hwngareg, lle datblygodd fy enw i, i.e. Lladin-Groeg Stefan(us) i Istvan. Yr un beth a ddigwyddodd yn y Twrceg yn annibynnol, e.e. istatistik 'statistics' (a channoedd o eiriau tebyg). Ar a llaw arall, diflannodd ist-/est- yn lle st- eto mewn rhai o'r ieithoedd sy'n dod o'r Lladin, e.e. yn Eidaleg, lle aeth 'istato' yn 'stato' a 'istoria' i 'storia'. Ond mae'n bosib ei glywed eto mewn rhai cyndestunau fel 'in istato maltenuto' (mewn Eidaleg hen- ffasiwn). Mae'r e- yn diflannu nawr yn Portiwgis, e.e. mae pobl yn dweud 'star' yn lle 'estar' ayb (o leia hynny ydoedd ynganiad fy athrawes, oedd yn dod o Lisbon). Yr un beth sy'n digwydd yn yr iaith Gymraeg nawr, lle mae pobl yn dweud 'sgwennu' yn lle 'ysgrifennu', 'sgrin' yn lle 'ysgrin' ayb. Ond mae'n amhosib (am wn i) beidio ag ynganu y- dan y pwyslais. E.e. mae pobl yn dweud 'ysgol' ac nid 'sgol', ysbryd ac nid 'sbryd' (os nad ydw i'n iawn, cywirwch fi). Mae diflaniad yr y- mewn geiriau fel 'sgwennu' yn debyg i ddiflaniad llafariaid dechreuol eraill, e.e. machlud yn lle ymachlud (dw i ddim yn gallu meddwl am air mynych ei arfer). Mae pobl yn dweud hyd yn oed 'sanau' am 'hosanau' (rhywbeth sy'n cymysgu'r dysgwr). Gobeithio bod hynny yn ateb digon hir. Popeth yn iawn nawr? (Fel y dywedais i, os nad ydw yn iawn, cywirwch fi!) Stefan Schumacher (Stefan.Schumacher.uibk.ac.at)