( > Is 'osgoi' accented on the last syllable? ) Yes. Always AFAIK. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad oes yna 'h' i ddynodi'r acen (fel sydd mewn berfenwau -hau sydd yn diweddu'n acennog, ond heb acen yn y sillafiad). Sillefir cryno + -i = crynhoi, ond osgo + -i fel osgoi. Nid oes -h- yn "ymroi", "tindroi" na "paratoi" ond mae'r rhain hefyd yn acennog. Am wn i, mae pob berfenw sy'n gorffen a'r ddeusain -oi yn diweddu'n acennog, ac mae'r ferf yn dilyn "troi" wrth rhedeg. Eithriadau? g