> y Cwm' yn arbennig) yn eu defnyddio fel "Dydw i ddim yn gallu....". > > e.e. "'w'i'n ffaelu dod ar hyn o bryd." Mae 'methu' a 'ffaelu' yn rywbeth ychwanegol i 'to fail'. Yn fy nhyb i, mae nhw hefyd yn gyfystyr a 'cannot', er efallai nad yw hyn yn iaith gywir. Fe glywch chi 'methu' yn y gogledd ym mhobman (y gallai feddwl amdano ar y foment) y fysa sais yn rhoi 'cannot' (neu 'can't'!). Felly "I can't come at the moment" - "Dwi methu dod ar hyn o bryd" neu "'w'i'n ffaelu.." fel uchod. Hoffwn i ddim a traethu gormod ar ddefnydd 'ffaelu' chwaith, gan fod y rhan fwyaf o'm mhrofiad i ohono hefyd yn dod o Bobol y Cwm! > Ydw i'n iawn am hyn? Ydy bobl yn eu defnyddio fel hyn? Os ydy, ble? Fe wn > i taw gair o'r De yw 'ffaelu', ond ydy Gogs yn defnyddio 'methu' yn yr un > modd? Gallwn i ddweud "'Rw'i'n methu/ffaelu ateb y ffo+n ar hyn o bryd" > ar y peiriant ateb er enghraifft? Fedrat. Un pwynt arall. Tydy 'methu' a 'ffaelu' ddim yn gwbwl gyfystyr. Hyd y gwn i, does gan 'ffaelu' (sydd yn gymreigeiddiad (??) o 'fail') ddim yr ystyr 'miss' a sydd i 'methu'. Noder mai 'miss' fel methu targed sydd gen i mewn golwg fan hyn, ddim y 'miss' hiraethus. -- Illtud Daniel Computing Officer, Jesus College, Oxford. idaniel@jesus.ox.ac.uk