( > Is 'osgoi' accented on the last syllable? ) ( Tair sillaf ) OS-GO-I ( acen ar yr olaf ond un. Cedwir yr rheol. Nage ddim, neu o leiaf ddim yn yr iaith safonol. Dwy sillaf yn unig sydd: osgoi, nid *osgo%i, dim mwy na *tro%i na *clo%i na *ffo%i sy'n unsill bob un. Ond mae'n debyg mai am mai "osgo + -i" oedd y tarddiad, a bod felly tuedd i acennu'r "-go-" i ddangos hynny, y mae'r acen ar y ddeusain derfynol. Ac fe ddichon mai cywasgiad cymharol ddiweddar sydd yma, fel yn Cymra%eg > Cymraeg. Mae rhai tafodiaethoedd yn cadw'r ddeusain ar wahan -- er engraifft, yn Rhosllanerchrugog, lle mae nhw'n dal i ddweud "co%at" am "co+t", mae nhw'n dueddol o ddweud "rho%i" am "rhoi", ond pobl od fuodd pobl y Rhos erioed. g