> >1. "Ac rwy'n credu, drwy ddefnyddio math arbennig ar hypnosis, a >chloi'r ymwybod..." (18) > > Be' ydy'r _ar_ 'ma? Mistec yw e? nage, nid "mistec", ffurf tafodiaethol braidd. Mae'n hollol gyfystyr ac 'o' - math arbennig ar... = math arbennig o... >2. "Ac yna ... fe'm teimlwn fy hun yn cael fy nhynnu fel fagnet, a pho >fwya'r ewyllysiwn i, mwya'n y byd oedd y tynnu arnaf." (221) > > Sut allech chi gyfieithu y rhan ola' (_a pho ..._) ? Be' ydy'r _'r_ >ar o+l _fwya_? po fwyaf = the harder, ffurf cymharol. 'r = yr, sef ffurf cywir y frawddeg. Tafodiaeth = po fwyaf o+n i'n trial... (ok, so to try yw trial ond...), cywir = Po fwya'r ewyllysiwn i... >3. (eistedd mewn cell:) "Yr oedd y tynnu o'r anwel wedi clo fy >nghyneddfau ..." (221) > > _anwel_ ? anweledig? o'r tywyllwch. Dim syniad sut mae cyfiethu yr Anwel. Sori >4. "Ac aeth yn fagddu arnaf." > > _fagddu_ ? Hyd y gwn i, a does dim sicrwydd mai'r cyfieithiad cywir yw hyn, yn Gwbwl/ hollol ddu yw 'fagddu'. Rhywun arall? >5. "Ymlaen ar hyd yr heolydd, drwy seithliw'r goleuon ..." > > _seithliw_ Saith lliw? neu efallai mai rhyw fath o ?drosiad sydd yma. >Diolch am bob ateb! > > Johan Schimanski > > >ps. Gan llaw, _Geiriadur i'r Ifanc_ ydy'r geiriadur gynta' go iawn am y >Gymraeg. Enghraifftau, priod-dulliau, tipyn o "usage" a.y.y.b. Mae'n wich! >Biti am y pris. Ond mae'n werth bob geiniog. >Johan Schimanski (jzs@aber.ac.uk) >- Research Fellow, General & Comparative Literature, University of Oslo >- Visiting Researcher, University of Wales Aberystwyth >- Working on dissertation: "An Intercourse of Nation and Genre in Welsh >Literature after 1700" Pob hwyl - ac ymddiheiriadau am bo' fi wedi ffaelu ateb yn well... Huw Huw Garan (NJ152@uk.ac.lampeter)