> ( Yes. Morris Jones insists that genitive 'm and 'th are historically > ) the front ends of fy and dy in (originally) spirantising contexts,... > > Dichon bod hwn yn wir, ond mae o'n fy atgoffa o rywbeth ddywedwyd neithiwr. > > Mae'r ieithydd sydd weithiau'n eistedd wrth yr un bwrdd a mi wrth giniawa > (ac sydd byth a beunydd yn gofyn y math o beth arweiniodd at y gyfres yma) > yn honni nad yw hanner beth mae John Morris-Jones yn ei ddweud am ddeilliad > gramadeg y Gymraeg yn ddibynadwy, na hyd yn oed yn bosib yn o+l ieithyddiaeth > hanesyddol gyfoes. Bai JM-J, meddai, yw ei fod yn gweld patrwm lle nad oes > dim sail hanesyddol iddo fo, a'i fod yn mynnu gwneud patrwm o bopeth. > > Beth bynnag am wirionedd yr honiad, mi fyddwn i'n deallt ei gymhelliad yn > iawn: wedi'r cyfan, mathemategydd oedd o o ran addysg a chynneddf; ac yn > groes i gred y mwyafrid anrifyddog ddifathemateg nid rhifau a rhifolion ond > trefn a phatrwm yw byw a bod mathemateg. Am wn i dyna sut y daeth i > ymddiddori yn y cynganeddion o bopeth. > > Gradd mewn mathemateg enillodd JM-J yma yn Rhydychen. Wn i ddim am neb > arall sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn astudiaethau Celtaidd ar sail BA > mewn mathemateg, na chwaith pa fath o fathemateg oedd ym maes llafur > Rhydychen ym 1883. Debyg fod gofynion mynediad myfyrwyr ymchwil a maes > llafur y Brifysgol ill dau wedi newid rhyw ychydig mewn canrif, hyd yn > oed yn ninas ceidwadaeth hunangysurus Rhydychen. g Well, on the specific point at issue, what he says is plausible in principle, and he backs it up with some (admittedly not very much) convincing-sounding evidence. He may be unduly disposed to see patterns where none exist, but there must be some historical reason for the anomalous use of "m" and "th" as genitive forms. What's the alternative explanation? ************************ Nigel Love Linguistics Cape Town NLOVE@BEATTIE.UCT.AC.ZA ************************