( Yes. Morris Jones insists that genitive 'm and 'th are historically ) the front ends of fy and dy in (originally) spirantising contexts,... Dichon bod hwn yn wir, ond mae o'n fy atgoffa o rywbeth ddywedwyd neithiwr. Mae'r ieithydd sydd weithiau'n eistedd wrth yr un bwrdd a mi wrth giniawa (ac sydd byth a beunydd yn gofyn y math o beth arweiniodd at y gyfres yma) yn honni nad yw hanner beth mae John Morris-Jones yn ei ddweud am ddeilliad gramadeg y Gymraeg yn ddibynadwy, na hyd yn oed yn bosib yn o+l ieithyddiaeth hanesyddol gyfoes. Bai JM-J, meddai, yw ei fod yn gweld patrwm lle nad oes dim sail hanesyddol iddo fo, a'i fod yn mynnu gwneud patrwm o bopeth. Beth bynnag am wirionedd yr honiad, mi fyddwn i'n deallt ei gymhelliad yn iawn: wedi'r cyfan, mathemategydd oedd o o ran addysg a chynneddf; ac yn groes i gred y mwyafrid anrifyddog ddifathemateg nid rhifau a rhifolion ond trefn a phatrwm yw byw a bod mathemateg. Am wn i dyna sut y daeth i ymddiddori yn y cynganeddion o bopeth. Gradd mewn mathemateg enillodd JM-J yma yn Rhydychen. Wn i ddim am neb arall sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn astudiaethau Celtaidd ar sail BA mewn mathemateg, na chwaith pa fath o fathemateg oedd ym maes llafur Rhydychen ym 1883. Debyg fod gofynion mynediad myfyrwyr ymchwil a maes llafur y Brifysgol ill dau wedi newid rhyw ychydig mewn canrif, hyd yn oed yn ninas ceidwadaeth hunangysurus Rhydychen. g